Arglwydd cadarn, bydd o'n hochr,
Dal fy ysbryd llesg i'r lan,
Gwyddost amled yw'm gelynion,
Ac nad wyf ond eiddil gwan;
Yn mhob trallod,
Rho im' wel'd dy
fod o'm tu.
Mae fy meiau fel mynyddoedd,
Ac fel ser y nef
eu rhi';
Ond mae haeddiant aberth Iesu,
Yn anfeidrol fwy i mi;
Dyma unig
Sail fy nghysur a fy hedd.
- - - - -
Arglwydd cadarn, bydd o'm hochr,
Dál fy ysbryd llesg i'r lán;
Gwyddost amled yw'm gelynion,
Er nad wyf ond eiddil gwan;
Yn mhob trallod,
Rho im' wel'd dy
fod o'm tu.
Mae fy meiau fel mynyddoedd,
Ac fel sêr y nef
eu rhi';
Ond mae haeddiant aberth Iesu,
Yn anfeidrol fwy i mi;
Er mwyn Iesu,
Dyro gysur im' a hedd.
Pa'm yr ofnaf feiau mawrion?
Trymach ydyw marwol glwy';
Mwy yw gair o enau'm Harglwydd,
Nac yw myrdd o honynt hwy;
Goruchafiaeth,
Fydd yn hyfryd pan y dêl.
William Williams 1717-91
[Mesur: 878747] gwelir: F'enaid egwan paid ag ofni Mae fy meiau fel mynyddoedd (Ac ...) |
Firm God, be on our side,
Hold my frail spirit up,
Thou knowest how manifold are my enemies,
And that I am only weak and feeble;
In every trouble,
Grant me to see that thou
art on my side.
My faults are like mountains,
And their number like the
stars of heaven;
But the merit of the sacrifice of Jesus is
Immeasurably greater to me;
Here alone is
The basis of my comfort and my peace.
- - - - -
Firm God, be on my side,
Hold my frail spirit up,
Thou knowest how manifold are my enemies,
Although I am only weak and feeble;
In every trouble,
Grant me to see that thou
art on my side.
My faults are like mountains,
And their number like the
stars of heaven;
But the merit of the sacrifice of Jesus is
Immeasurably greater to me;
Here alone is
The basis of my comfort and my peace.
Why shall I fear great faults?
Heavier is a mortal wound;
Greater is a word from my Lord's mouth,
Than is a myriad of them;
Supremacy,
Will be delightful when it comes.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|